<< Tudalen Blaenorol  Cicio  Haf 2002  Tudalen Nesaf >>

ALTON TOWERS


Ar y trydydd o Ebrill 2002 fe aeth CIC-Bro Ogwr a 54 o griw CiC ar daith hir i Alton Towers.
Dechreuodd y daith yn Sarn am 6.30yb oherwydd roedd cwpwl o'r staff yn hwyr (heb enwi neb) - NON! Felly aethom i Lantrisant a roedd y bws yn llawn.
Ar ôl rhyw awr a hanner fe stopion ni yn y gwasanaethau ac yn ôl  traddodiad aeth pawb i 'Burger King'. Ar ôl stwffo a chael gwared o'r bwyd roedd e nôl ar y bws am 2 awr arall (wel dyna beth on ni'n meddwl).
Wrth cyrraedd Alton Towers roedd y traffig yn iawn, nes i ni ymuno â chiw o geir, am rhyw awr! Roedd pawb yn dechrau mynd yn grac oherwydd roedd yna un car o'n blaen ni yn stopio ac yn gadael ceir eraill i mewn!!
O'r diwedd ar ôl gweld yr un olygfa am 6 awr! (o.k ddim mor hir), roedden ni yna.
Talodd pawb a mynd am eu reids cyntaf, 5 awr yn unig oedd ganddon ni, felly roedd y dewis yn fach iawn.
Ar ôl cerdded o gwmpas a chiwio am byth, roedd pawb wedi ymgynnull am 5 yn y prif stryd, ac fe dechreuodd pawb siarad am y diwrnod. Daeth y staff yn wên o glust i glust - mor smyg, oherwydd fe giwion nhw am dair awr a hanner am y reid newydd 'AIR', a roeddent yn gwybod ei fod yn mynd i wneud pobol yn genfigennus (hyn yn cynnwys fi).
Fe aeth pawb ar y bws am y daith adref. Roedd e'n neis ar ôl sefyll mewn ciw am hanner y dydd.
A gesiwch beth? Nid oedd yna unrhyw draffig ar y fordd nôl.

Roedd e'n wych!


Roedd rhaid codi am 5 o'r gloch i cyrraedd Sarn Services am 6.30yb. Roedd y taith yn rhywbeth fel 5awr, stopion ni un waith trwy gydol y daith.
Pan cyrhaeddon ni, cefon ni tocyn yr un, hefyd caethon ni amser i cwrdd lân.

Roedd y reids yn wych, roedd pawb wedi cael llawer o hwyl, aeth e'n rhy gyflym.

SGLEFRIO IÂ

Ar nos Fercher 20fed o Fawrth, aeth CIC-Cynllun Ieuenctid Cymraeg Bro Ogwr a CIC-Cynllun Ieuenctid y Cymoedd ar drip Dawnsio Disco Sglefrio Iâ yng Nghaerdydd.
Dechreuwyd y noson gyda'r plant wedi blino'n lân ar ôl gweithio lan eu hegni wrth chwarae pêl-droed, pêl- rwyd a phêl foli, cyn mynd i'r Disco Sglefrio Iâ.
Ond wrth gyrraedd Caerdydd fe'u dihunwyd yn hollol effro wrth dynnu mewn i 'Mc Donalds' â phawb yn wên o glust i glust yn bwyta'u byrgers a sglods seimllyd.
Âr ôl i bawb magu nerth newydd, roeddent yn barod unwaith eto am y llawr sglefrio. I rai o'r plant roedd hyn yn gamp newydd a chawsant hwyl fawr wrth geisio ei feistroli.
Un ferch a oedd yn arbennig o dda oedd Lisa Mitchell a wnaeth bob math o driciau ei thro cyntaf ar yr iâ. Enillodd dwy ferch sef Emma

Young a Caitlin Thomas docynnau dawnsio disgo sglefrio iâ, ar ôl iddynt ateb cwestiwn ynglyn â'r gerddoriaeth.

Gorffennwyd y noson ar nodyn hapus erbyn 9.30yh gyda phawb yn cyrraedd adref yn ddiogel ac yn wlyb ond yn ddianaf. 

3

<< Tudalen Blaenorol  Cicio  Haf 2002  Tudalen Nesaf >>