|
'PAINTBALLING' YNG NGHENARTH
Cafodd y diwrnod ei drefnu ar gyfer pobl ifanc ardal ysgolion Llanhari, Rhydfelen a Rhyd y Waun. Dechreuodd y bore gyda phawb yn gwisgo lan yn eu gwisg 'Camouflage', hetiau du, a gynau, ac yna sgwrs ar ddiogelwch y diwrnod.
DECHRAU Y GÊM Roedd pawb yn rhedeg, cuddio, chwerthin ac yn saethu ei gilydd, gyda paent glas a melyn ym mhob man. Ar ôl bore o ddefnyddio'u hegni, ac i'r tîm melyn fynd ar y blaen, roedd pawb yn llwgu. Daeth 'hotdogs' a 'byrgers' i achub y dydd. YMLAEN GYDAR GÊM Cyrsiau newydd, a mwy o saethu. Nawr!!! Roedd pawb yn dechrau blino'n lân, ond yn dal i fwynhau'r diwrnod. I orffen aeth y tîm glas ymlaen i ennill y gêm, a phawb yn hapus, ac yn barod i ddod adref.
YDYCH CHI'N BAROD AM YR UN SIALENS?
TYSTYSGRIFAU Y DIWRNOD
|
|