<< Safle Cicio  Cicio  Haf 2002  Tudalen Nesaf >>

Clybiau CIC

Mae nifer o glybiau CIC yn cwrdd i gael hwyl bob wythnos. Os nad ydych yn agos i Benybont, Aberdar, Bargoed neu Gaerdydd, gofynnwch i griw CiC drefnu clwb yn eich ardal chi.

  Edrychwch allan am weithgareddau yr Haf! Bydd cyrsiau i chi sy'n mwynhau drama, dawns a cherddoriaeth a nifer o dripiau ar gael at ddant pawb.

   Yr un mwyaf poblogaidd yw Alton Towers ond mae digon o dripiau eraill i gael i  ymweld â Maes B yr Eisteddfod, gemau rygbi, Skate Extreme, Canolfan Ddringo Llongors, Quasar, bowlio deg, sglefrio iâ, Dolygaer, "Paintballing", syrffio a beicio mynydd a sioeau Llundain.

Criw y Caffi Syber  yn Quasar

Ffansîn i
bobl ifanc CiC


Helo bawb,
Dyma ni yn hel straeon a chlecs am hwyl
CiC. Os ydych chi wedi mwynhau un o gigs CIC danfonwch e-bost i ni

cic@cicio.net
Enjoiwch!!


Dawn, Amanda,
James ac Andrew
Trefnyddion Ieuenctid

Mae CIC yn trefnu gigs, tripiau, nosweithiau a chlybiau ar gyfer pobl ifanc o Borthcawl i Bontllanffraith, o'r Bae i Benderyn.

Ymunwch yn yr hwyl.
www.cicio.net

Eisteddfod yr Urdd Caerdydd

Eleni mae'r Eisteddfod wedi dod i Gaerdydd. Lleolir y maes y tu ôl i'r Castell yng Nghaeau Cooper. Mae'n leoliad delfrydol i bobl sydd yn mynd i'r Ddinas i weld beth mae'r Eisteddfod a'r iaith Gymraeg  yn cynnig.

Mae miloedd ar filoedd o blant a'u hyfforddwyr wedi bod yn gweithio yn galed am fisoedd.

Ond mae yna fwy i'r Eisteddfod na chanu a Dawnsio. Darllenwch y cyfan ar dudalen 10 a chofiwch fynd yno!

<< Safle Cicio  Cicio  Haf 2002  Tudalen Nesaf >>