<< Tudalen Blaenorol

Cicio  Haf 2003

Tudalen Nesaf >>

Clwb Ieuenctid Glantaf
Bob Nos Lun 4 -6
Clwb Ieuenctid Waterhall
Bob nos Fawrth o 4 -5.

Croeso i bawb o flwyddyn 7 a 8 fynychu y clybiau ieuenctid! Cewch chi'r cyfle i gymdeithasu, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio fideo, gwneud celf a chrefft neu gymryd rhan yn y chwareon a gemau sydd ar gael. Yn ystod y tymor fe fydd tripiau hefyd ar gael megis bowlio deg a Quazar. Dewch i joio!

Bowlio Deg, Quasar, Taith Ysbrydion Llancaiach Fawr, Ffatri Bop, Clwb Ifor Bach, Stackpole, Creu Safle Gwe, Fideos, Hobbit, Gorsaf Heddlu, Cwis, Teithiau Tramor

Sgiliau CiC!
Bob tymor fe fydd sgiliau newydd yn cael eu dysgu  i ddisgyblion Plasmawr trwy bartneriaeth gyda'r ysgol. Os oes diddordeb gennych chi mewn sgiliau DJ, sboncen, nofio, codi hwyl neu glwb celf cysylltwch â
Chanolfan Ieuenctid Waterhall.

Fforwm Pobl Ifanc Caerdydd - Pobl Ifanc Caerdydd Yn Arwain Y Ffordd!

Os ydych chi rhwng 11 a 25 oed fedrwch chi gymryd rhan yn y fforwm drwy mynegi eich safbwyntiau, cymryd rhan yn gweithgareddau megis gweithdai dawns, argraffu a chelf yn ogystal â cwrdd â ffrindiau newydd,  mynegi eich hunan a mwynhau cwmni pobl ifanc o dros Caerdydd cyfan! Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'r fforwm cysylltwch a'r Swyddog Ieuenctid ar 029 2056 1998 neu e-bostiwch - youthforum@cardiff.gov.uk.

Oes rhywbeth gwahanol hoffech chi wneud trwy gyfrwng y Gymraeg?
Oes na rhywbeth sydd ddim ar gael yng Nghaerdydd yn y Gymraeg, ac mae gennych chi syniadau o beth hoffech chi weld yn eich ardal?

Cysylltwch â Trudy
yn swyddfa CIC ar -
029 20554939 neu
07976003348
neu e-bostiwch - trudy@urdd.org

<< Tudalen Blaenorol