<< Tudalen Blaenorol

Cicio  Haf 2003

Tudalen Nesaf >>

CYFFURIAU -
HANFODION

Mae cyffuriau'n rhan o ddiwylliant ieuenctid. Naill ai rwyt ti'n eu hoffi neu ddim. Mae'n anhebygol na fyddi'n dod i gyswllt â nhw, felly mae angen i ti wybod beth ydyn nhw a'u heffeithiau. Mae pobl yn cymryd cyffuriau am bob math o resymau ac mae'r effeithiau bob amser yn wahanol ar wahanol bobl.

Tabledi neu gapswlau a logo arnyn nhw. Yn dod  mewn gwahanol liwiau a siapau.

Effeithiau

  • Mwy o egni.
  • Mwy cyfeillgar
  • Ymwybyddiaeth gref o'r amgylchedd.

Arwain at

  • Blinder.
  • Dihydradu.
  • Pwysedd gwaed uwch.
  • Iselder.
  • Paranoia.
  • Gordwymo.

Mae rhai cyffuriau'n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn gyfreithlon fel alcohol a thybaco. Fodd bynnag, mae cyffuriau anghyfreithlon fel ecstasi a heroin ar gael yn hawdd. Mae pawb yn gwybod bod cymryd cyffur yn beth mentrus a pheryglus hyd yn oed os ydych wedi cymryd peth o'r blaen ac yn ymddiried yn eich cyflenwr. Ond mae 'na bris i'w dalu, marw, cael problemau iechyd difrifol, mynd i'r carchar a sgîl effeithiau dychrynllyd.

Booze, tot, nip, tipple, bevy…

Beth yw dy wenwyn? Gall diod neu ddwy godi'r ysbryd ond mae'n bwysig gwybod pryd mae'n gyfreithiol i ti yfed a ble. Mae bod yn gymdeithasol yn bwysig, gall bod gyda dy ffrindiau mewn tafarn neu gartre dros ginio gyda'r teulu fod yn adeg y byddi'n hoffi cael gwydraid. Dwyt ti ddim yn eithriad. Ond mae peryglon ac weithiau fe all pethau fynd yn hynllefus.

Cyffredin iawn a dadleuol. Mae'n cael ei gamddefnyddio ond hefyd i leddfu symtomau. Mae 3 prif fath: dail sych (grass), resin tywyll, ac olew hash. Fel arfer fe fydd pobl yn smygu canabis gyda thybaco gan rolio sigarennau fel 'joints' neu 'spliffs'. Hefyd gellir ei smygu mewn pib/cetyn a'i goginio a'i fwyta.

Effeithiau?

  • Peri chwerthin dwl.
  • Cynyddu hunanhyder.
  • Ymlacio
  • Bod yn siaradus.

Arwain at?

  • Poen yn y  bol.
  • Paranoia.
  • Dryswch.
  • Colli cof dros dro.
  • Iselder ysbryd.
  • Bronceitus a chynyddu'r perygl o ddal cancr yr ysgyfaint.

Mae alcohol yn peri i bawb deimlo'n wahanol. Gallet gael pendro, troi'n gas neu'n isel ysbryd a chrio dipyn, troi'n ymladdgar neu'n gysglyd. Mae'n bwysig gwybod sut y byddi'n adweithio er mwyn i ti allu barnu dy yfed, a chadw rheolaeth  dros dy weithredoedd. Mae cur pen drannoeth, cyfogi, digio dy gyfeillion, ennill pwysau a niweidio dy arennau a dy afu/iau a chodi pwysedd dy waed yn sgîl effeithiau y dymunet eu hosgoi, yn ogystal â briwiau poenus yn y stumog a  gofidiau emosiynol.

Blow, Morroccan, marijuana, mwg drwg…

2

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>